Hanes
Cartref > Amdanom Ni > Hanes
Y TRI PANEL CERFIEDIG
Gweithirw chwarel oedd Owen Evan Roberts (1892-1944) yn enedigol o’r Fron. Aeth i Ysgol Bron-y-Foel ac addolodd yng Nghapel Cesarea bob Sul. Priododd frances a Chawsant 8 o blant, gyda 7 yn goroesi i dyfu’n Oedolion. Yn chwarel Pen Yr Orsedd, ei llysenw oedd ‘Now’r Iard’, a byddai’n gyrru’r ‘American Devil’, y rhaw ager gyntaf yn yr ardal.
Roedd ganddo ddawn o gerfio llechi, a death yn enwog am ei baneli llechi cerfweddol. Crêwyd y dyluniadau gan yr athro Celf yn yr Ysgol Ramadeg ym Mhenygroes. Yn y cwt y tu ôl i’w dŷ teras bychan, byddai’n trio’r rhain yn gerfweddau byw trwy drin y llechi gydag amrywiaeth o offer, gan lwyddo i gyfleu manylion cain, weithiau gyda dim mwy na cael eu gloywi, gan greu mwy o ddrama a dyfnder trwy oleuo rhai darnau, a thywyllu a rhoi sglein ar eraill. Crefftwr amateur ydoedd, ond y mae’r cerfweddau o safon dechnegol uchel iawn, a’r dyluniadau yn adlewyrchu arddull art deco y cyfnod.
Cerfiodd dri panel llechen fawr yn y 1930au, a phob un yn ennill gwobr yn ye Eisteddfod Genedlaethol. Mae’r ddau banel cyntaf ym mediant y teulu, ac wedi eu rhoi ar fenthyg i Ganolfan y Fron. Mae’r trydydd ar goll, er bod ffotograff a chopi maint llawn o’r dyluniad wedi’u lleoli yn y ganolfan.
