Canolfan Y Fron

Y Ganolfan


Prosiect ym mherchenogaeth a than arweiniad y gymuned yw Canolfan Y Fron; daeth i fod pan gaeodd yr ysgol leol, Ysgol Bronyfoel, ym mis Gorffennaf 2015. Llwyddodd grŵp o drigolion i gael prydles dymor-hir ar yr adeilad gan Gyngor Sir Gwynedd a sicrhau cyllid gan Gronfa’r Loteri Fawr a Llywodraeth Cymru i adnewyddu’r adeilad. Agorodd fel canolfan gymunedol yn hydref 2018. Mae’r gymuned gyfan yn gwerthfawrogi’n arw y gefnogaeth a roddodd y tri sefydliad hwn i ni. 

Wrth adnewyddu’r adeilad, cadwodd y gymuned gymaint o’r nodweddion gwreididol ag oedd modd, gan gynnwys y pendrawstiau pîn o gwmpas y drysau, y tafod a rhych yn y Llety, a’r postyn ffenest llechen ar ochr ddwyreiniol yr adeilad. Rydym hefyd wedi ymgorffori cymaint o elfennau amgylcheddol gynaliadwy ag sydd modd, gan gynnwys pympiau gwres ffynhonnell aer a gwresogi dan y lloriau, insiwleiddio trylwyr, paneli solar PV ar y to a phwyntiau gwefru ceir trydan. 

Trwy ymweld â’r Ganolfan a chymryd rhan yn y digwyddiadau cymunedol neu fwyta yn y Caffi, prynu yn y Siop neu aros yn y Llety, rydych yn helpu i adfywio ein pentref, ac yr ydym yn ddiolchgar am eich cefnogaeth. Gobeithio y gwelwn chi yma’n aml. 

Datganiad Gweledigaeth, Cenhadaeth a Gwerthoedd

CAIS AM AELODAETH – CANOLFAN Y FRON