Mae modd llogi ystafelloedd ar gyfer digwyddiadau cymunedol, digwyddiadau preifat, cyfarfodydd a chynadleddau. Mae amrywiaeth o ddewisiadau ar gael o ran cynllun yr ystafell, gan gynnwys gosod allan fel theatr, byrddau a chadeiriau neu osod allan ar gyfer cynhadledd lawn. Mae cyfleusterau arlwyo ar gael neu gellir cael bwyd o Cegin Fron (byrbrydau, bwffe a phrydau llawn). Mae ein staff cyfeillgar yn sicr o ofalu fod pob digwyddiad, o bartion penblwydd teuluol i ddosbarthiadau ymarfer a gwleddoedd, dan reolaeth broffesiynol yn gyson, er mwyn cael digwyddiad llwyddiannus. Wi-Fi am ddim ym mhob man.
Cost (gan gynnwys TAW)
Ystafell | Amser Awr | Hanner Diwrnod | Diwrnod Llawn | Uchafswm |
---|---|---|---|---|
Prif Neuadd 2 (Gogledd) | £120 | 60 | ||
Prif Neuadd 2 (De) | £120 | 40 | ||
Neuadd (1 a 2) | £240 | 120 |
-
Ystafell Gymunedol 1
Mae gan Ystafell Gymunedol 1 nenfwd uchel ac y mae’n wynebu’r de; mae gerllaw’r Gegin Bach a chegin y Caffi. Mae modd ei gosod i...
-
Ystafell Gymunedol 2
Mae gan Ystafell Gymunedol 2, gerllaw’r lobi, nenfwd uchel a gorchuddion acwstig ar y waliau, a ffenestri mawr yn wynebu’r gogledd. Mae modd ei gosod...
-
Cynadleddau
Gallwch logi holl brif ystafelloedd y Ganolfan ar gyfer cyfarfod neu gynhadledd, gan gynnwys yr ystafell gyfarfod, Ystafell Gymunedol 1 ac Ystafell Gymunedol 2. Bydd...
-
Ystafelloedd Cymunedol Cyfun
Gallwch logi’r Brif Neuadd gyfan, gyda lle i 100. Mae darllenfa, goleuadau theatr a system sain ar gael. Amcangyfrif o ddimensiynau: 5.7m x 17.4m