Canolfan Y Fron

Llety


Llety Y Fron


Ein llety i ymwelwyr hollol unigryw yw Llety @ Canolfan y Fron sydd wedi’i adeiladu fel teyrnged i’r bunkhouse traddodiadol ond efo steil a chyfleusterau modern. Mae yna pedair ystafell steilus a chyfforddus i gyd gyda chyfleusterau ymolchi a golygfeydd o’r mynyddoedd. Mae yma gegin gyfrannol a man bwyta ac mae wifi am ddim trwy’r adeilad.  Gallwch logi ystafelloedd unigol i siwtio maint eich party neu gallwch logi’r Llety cyfan sydd yn gallu cysgu 18 o bobl.  Tu allan mae ddigon o fannau parcio, pwyntiau gwefr ar gyfer moduron trydan a storfeydd diogel.

Mae’r Llety yn croesawu cŵn sy’n ymddwyn yn dda. Rydym yn codi tâl bychan o £5 y ci y noson

Gallwch wirio prisiau neu fwcio’r graddau rhatach trwy ffonio 01286 880882 ne e-bostio [email protected] 

Ystafell 1 – 4 sengl

Ystafell 2 – 1 dwbl ac 1 sengl

Ystafell 3 – 1 dwbl a 3 sengl

 

Ystafell 4 – 6 sengl