Mae’r neuadd a’r Ganolfan yn ganolbwynt prysur o ddigwyddiadau! Os hoffech ei logi ar eich pen eich hun, neu gymryd rhan yn un o’n digwyddiadau a drefnwyd ymlaen llaw, rhowch wybod i ni. O sesiynau TG digidol, i Zumba, mae gennym ni rywbeth at ddant pawb yng Nghanolfan y Fron, ac rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu yma.
Bob dydd Iau ym mis Mawrth ac Ebrill mwynhewch bryd 2 gwrs AM DDIM rhwng 12 a 2pm. Dim ond 40 o lefydd sydd ar gael bob wythnos felly archebwch yn gynnar. 07932 101983 neu galwch i mewn yn y siop.
Bob dydd Gwener mae Gwynedd Ddigidol yn cynnig Cyngor Cymorth Costau Byw.
Preswylwyr y Fron Ffair Gwanwyn 30ain Ebrill dechrau 11yb
Bingo – dydd Mawrth cyntaf pob mis, yn dechrau am 7pm. Dydd Mawrth 2 Mai
Noson Seicig yng nghwmni Angharad. Dydd Iau 25 Mai 7.30-9.30pm