Canolfan Y Fron

Croeso i’r pentref wrth droed ‘Mynydd Eliffant’


Mae pentref bychan Y Fron yng nghanol tir comin ar ucheldir Eryri, 6 milltir yn unig i’r de o Gaernarfon, yn harddwch gogledd Cymru. Yma mae’r gog yn canu bob mis Mai, yr eos yn telori drwy’r haf, a defaid a gwartheg yn crwydro. Pentref a sefydlwyd yn wreiddiol gan chwarelwyr yw Y Fron, ac y mae bellach yn baradwys i’r rhai sydd yn ymddiddori mewn gweithgareddau awyr agored ac yn fan delfrydol ar gyfer gwyliau yn Eryri, gan ei fod yn agos at y mynyddoedd, y môr a threfi Caernarfon, Bangor, Porthmadog a Phwllheli.

Am Ganolfan Y Fron


 

 

 

Amserlen Bws

 

Mae pentref bychan Y Fron yn eistedd islaw “Mynydd yr Eliffant”, yng nghanol Eryri dim ond 6 milltir i’r de o Gaernarfon. Yn wreiddiol gartref i weithwyr y chwareli llechi, mae’r pentref yn agos i rannau o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO Llechi Cymru, ac mae’n cael ei groesi gan y Llwybr Pererinion hanesyddol a’r Llwybr Llechi UNESCO. Mae’n gorwedd o fewn cyrraedd hawdd i’r mynyddoedd, y môr a’r trefi Caernarfon, Porthmadog, Pwllheli a Bangor. Mae’n cynnig paradwys ar gyfer selogion awyr agored ac mewn lleoliad perffaith ar gyfer gwyliau yn Eryri.

 

Mae Canolfan y Fron yn eistedd yng nghanol y pentref ac mae’n lleoliad perffaith i chi archwilio’r ardal ddiddorol ac amrywiol hon. Llawer mwy na dim ond siop bentref, rydym yn cynnig llety hygyrch a chaffi ar y safle. Mae neuadd hefyd ar gael i’w llogi ar gyfer digwyddiadau preifat

 

Amserlen Bws y Fron

CEGIN FRON

Gwiriwch y Tab Caffi am y newyddion diweddaraf

 

SIOP FRON

Agoriad gaeaf 09:00 – 17:00 Bob dydd (Dydd Sul 11:00 – 16:00)

Mae Shop Fron bellach yn gwerthu diodydd alcoholig

LLETY

Mae’r Llety yn awr wedi ail agor yn ei gyfanrwydd gan gynnwys y gegin gyfrannol.  Rydym yn dal i gymryd rhagofalon yn erbyn Covid-19 trwy sicrhau nad yw llestri a chyllyll a ffyrc yn cael eu rhannu ac yn gofyn i westai arsylwi pellter cymdeithasol yn y gegin ac i wisgo masgiau pan ddim yn eistedd.

Bellach mae gan Ganolfan y Fron olchfa ar gael i’w defnyddio gan westeion sy’n aros yn y Llety a’r gymuned leol fel ei gilydd. Mae ganddo gyfleusterau golchi a sychu. I ddefnyddio’r golchdy, galwch heibio naill ai yn Siop Fron neu Cegin Fron lle gallwch brynu tocynnau i’w defnyddio yn y peiriannau.

Gallwch wneud bwciadau ar y wefan yma, trwy ffonio 01286 880882 neu trwy Booking.com, Expedia neu Airbnb wrth edrych am ‘accommodation in Upper Llandwrog’.

 

Y TRI PANEL CERFIEDIG

Gweithirw chwarel oedd Owen Evan Roberts (1892-1944) yn enedigol o’r Fron.  Aeth i Ysgol Bron-y-Foel ac addolodd yng Nghapel Cesarea bob Sul.  Priododd frances a Chawsant 8 o blant, gyda 7 yn goroesi i dyfu’n Oedolion.  Yn chwarel Pen Yr Orsedd, ei llysenw oedd ‘Now’r Iard’, a byddai’n gyrru’r ‘American Devil’, y rhaw ager gyntaf yn yr ardal.

Roedd ganddo ddawn o gerfio llechi, a death yn enwog am ei baneli llechi cerfweddol.  Crêwyd y dyluniadau gan yr athro Celf yn yr Ysgol Ramadeg ym Mhenygroes.  Yn y cwt y tu ôl i’w dŷ teras bychan, byddai’n trio’r rhain yn gerfweddau byw trwy drin y llechi gydag amrywiaeth o offer, gan lwyddo i gyfleu manylion cain, weithiau gyda dim mwy na cael eu gloywi, gan greu mwy o ddrama a dyfnder trwy oleuo rhai darnau, a thywyllu a rhoi sglein ar eraill.  Crefftwr amateur ydoedd, ond y mae’r cerfweddau o safon dechnegol uchel iawn, a’r dyluniadau yn adlewyrchu arddull art deco y cyfnod.

Cerfiodd dri panel llechen fawr yn y 1930au, a phob un yn ennill gwobr yn ye Eisteddfod Genedlaethol.  Mae’r ddau banel cyntaf ym mediant y teulu, ac wedi eu rhoi ar fenthyg i Ganolfan y Fron.  Mae’r trydydd ar goll, er bod ffotograff a chopi maint llawn o’r dyluniad wedi’u lleoli yn y ganolfan.